
Gwnewch eich cartref, eich cymuned a’ch busnes yn fwy diogel rhag tân.
Gallwch ddilyn camau syml i ofalu eich bod yn fwy diogel rhag tân, boed gartref, yn y gwaith neu'n dathlu.
Yng Nghymru, gallwch alw 0800 169 1234 i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim. Trwy alw'r rhif hwn, gallwch drefnu i'r Gwasanaeth Tân ac Achub lleol ddod draw i'ch cartref i roi cyngor ichi ynghylch gwneud eich cartref yn fwy diogel rhag tân. Os nad oes gennych larymau mwg, fe all eich Gwasanaeth Tân ac Achub osod rhai ichi am ddim.
Byddwch yn ddiogel ar noson tân gwyllt. Ewch i noson sydd wedi ei threfnu’n iawn Darllenwch fwy>
Coginio Wedi Meddwi? Peidiwch a choginio!
Mae pobl yng Nghymru yn eu rhoi eu hunain mewn perygl trwy goginio wedi iddynt fod yn yfed. Darllenwch fwy>
