FireFlash logo

0800 169 1234

Galwch nawr i gael Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim

Pob blwyddyn, mae diffoddwyr tân Cymru yn cael eu galw at dros 2,000 o danau damweiniol yn y cartref. Gall y rhan fwyaf o bobl wneud newidiadau bychain o gwmpas y tŷ; neu i’w harferion bob-dydd er mwyn lleihau’r perygl o dân damweiniol.

Yng Nghymru, gallwch alw 0800 169 1234 i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim. Trwy alw’r rhif hwn, gallwch drefnu i’r Gwasanaeth Tân ac Achub lleol ddod draw i’ch cartref i roi cyngor i chi ynglyˆn â gwneud eich cartref yn fwy diogel rhag tân. Os nad oes gennych larymau mwg, gall y Gwasanaeth Tân ac Achub osod rhai am ddim ichi. Ffoniwch nawr i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, neu cliciwch ar eich ardal a rhoi’ch manylion ar y dudalen nesaf.

Os nad oes gennych chi Flash, dilynwch y dolenni yma at y ffurflen archwiliad diogelwch tân yn y cartref: Y Gogledd, Y Canolbarth a’r Gorllewin, y De

ADTC